Lleoliad: San Steffan
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Mehefin 2022
------
1 Ymweliad â San Steffan - gwaith rhyngseneddol gyda phwyllgorau cyfatebol
Cyfarfu’r Pwyllgor â’r pwyllgorau cyfatebol a ganlyn yn Senedd y DU fel rhan o’i waith rhyngseneddol:
· Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin;
· Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin;
· Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi;
· Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi;
· Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi;
· Pwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi; a
· Phwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi.